Beth yw Merthyr Noise?
AGwefan i bobl ifanc ym Merthyr Tudful i siarad am eich barn a phynciau sy’n eich pryderu chi, beth am gael sôn am beth sy’n digwydd yn eich cymunedau, hysbysebu digwyddiadau yn eich ardaloedd lleol, ysgolion, clybiau ieuenctid, eglwysi, canolfannau cymunedol a.y.b.
Mae’r safle’n gweithredu o fewn eich Deg Hawl (hawliau pobl ifanc fel y cyflwynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru) ac yn cyd-fynd â’r Siarter Gwybodaeth Ieuenctid Ewropeaidd.
Nod y prosiect yw gwneud y wefan yn hollol hygyrch i holl bobl ifanc Merthyr Tudful ac i’ch cefnogi chi i ddod yn aelodau cyfranogol o’ch cymunedau a’r gymdeithas ehangach.
Rheolwyd y wefan gan bobl ifanc i bobl ifanc. Gwefan Merthyr Noise bydd y gwefan lleol ar gyfer pobl ifanc ym Merthyr Tudful i gyrchu gwybodaeth ar bynciau perthnasol, gwasanaethau a gweithgareddau, ond mi fyddai hefyd yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau o erthyglau cenedlaethol.
Sut ddigwyddodd hyn i gyd?
Datblygwyd y wefan oherwydd gofynnoch CHI amdano. Cyflwynodd Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr cyfres o ymgynghoriadau gyda phobl ifanc ar draws Merthyr Tudful yn 2010/2011 i weld beth oeddech chi eisiau fel rhan o’r Cynllun Gwasanaeth Ieuenctid. Yn ystod y sesiynau ymgynghori am Wybodaeth, Cyngor ac Arweiniad gofynnom sut byddai’n well gennych chi weld y wybodaeth a chyflenwyd a dywedodd y mwyafrif lleol “drwy gyfrwng gwefannau a rhwydweithio cymdeithasol”.
Cyfarfu Partneriaeth Pobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr Tudful a'r Partneriaeth Pobl Ifanc gyda Promo-Cymru a enillodd y cytundeb i greu CLIC Ar-lein ac wedi’r ymgynghoriadau gyda’r rhain a CHI y pobl ifanc, ganwyd Merthyr Noise.



