Cwestiynu Keith Towler
Ar ddydd Iau 19 Ebrill 2012 bydd digwyddiad yng Nghaerdydd yn cael ei gynnal gan theSprout yn rhoi cyfle i bobl ifanc yng Nghymru a'r sefydliadau sydd yn gweithio gyda nhw, i gyfarfod Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler.
Efallai ti wedi clywed amdano yn y newyddion neu mewn erthygl wedi'i bostio ar theSprout o'r blaen. Ei waith o ydy "i hyrwyddo lles plant a phobl ifanc" ar draws Cymru gyfan, felly rydym ni yn lwcus iawn i gael ychydig o'i amser.
Bydd hwn yn sesiwn cwestiwn ac ateb cyhoeddus a gall unrhyw un ddod. Felly os wyt ti'n meddwl fod yna rywbeth hoffet ti wybod ac mae gen ti'r amser i ddod draw yna plîs gwna.!
Bydd yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd ar y dyddiad uchod ac yn cychwyn am 4.30yp. Bydd Keith Towler yno am awr a phaid bod ofn, mae'n ddyn cyfeillgar iawn a bydd yn hapus i ateb dy gwestiynau!
(Cyhoeddwyd r erthygl yma am y tro cyntaf ar 16 Mawrth 2012.)
Digwyddiadau – Cwestiwn ac Ateb gyda Keith Towler
Gwefan Comisiynydd Plant Cymru
Gwybodaeth – Hawliau Plant
Erthyglau Perthnasol:






