Gweithdy Gwybodaeth R?an Hyn CLIC #1 – Drymio
Bydd y digwyddiad Gwybodaeth R?an Hyn CLIC yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 17 Ebrill 2012 rhwng 10yb a 2yp, ac yn y dyddiau sydd yn arwain at y digwyddiad byddwn yn rhoi cipolwg i ti o bob un o'r saith gweithdy fydd yn mynd ymlaen. Bydd y gweithdai yma yn digwydd am 11yb ac yn cael eu hailadrodd am 11:40 ar y dydd.
Heddiw gad i mi ddweud wrthyt ti am y Gweithdy Drymio, fydd yn gadael i ti gael cyfle ar ddrymio Affricanaidd a ffurfiau eraill o offerynnau taro. Bydd cyfle i ti greu cerddoriaeth a rhythmau eraill a rhoi perfformiad byr at ei gilydd.
O gysidro'r digwyddiad cyfan (gan gynnwys y bwyd, adloniant a lluniaeth) am ddim, mae hwn yn fargen dda.
Felly, os ydy'r darn bach yma o wybodaeth yn apelio atat ti, pam ddim dod draw i'n digwyddiad? Os wyt ti eisiau cadw lle yn y digwyddiad (a bag nwyddau neis hefyd), neu eisiau gwybodaeth bellach am y dydd, gyrra e-bost i Cindy Chen ar cindy@cliconline.co.uk neu alw 02920 462222.
Yfory, byddwn y gadael i ti wybod am y Gweithdy ArOlwg, i'r rhai sydd efallai efo diddordeb mewn dod yn Arolygwr Ifanc.
Clicia yma i lawr lwytho rhaglen y dydd.
Tudalen Facebook CLIC: Gwybodaeth R?an Hyn




