Gwobrau CLIC 2011 - Enwebiadau Ar Agor
Ar nos Sadwrn, 19 Tachwedd 2011 bydd CLIC a phawb sydd yn hwylio ynddi yn cymryd drosodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (yr adeilad ffansi mawr yna gyda'r mamoth blewog yna ti ddim yn cael cyffwrdd). Pam? Am mai dyma fydd noson Gwobrau CLIC 2011.
Am dair awr byddem yn llenwi'r neuadd fawr gyda cherddoriaeth, comedi, perfformwyr syrcas, dawnswyr a gwobrau godidog.
A dyma le ti'n chwarae dy ran! Wel mae pawb yn cael gwadd beth bynnag ond byddwn angen i chi gyflwyno cynnwys fel eich bod yn gallu ennill y gwobrau gwych yma roeddem yn sôn amdanynt gynt.
Rydym wedi creu naw categori sydd, rydym yn gobeithio, yn ymdrin â phob agwedd o CLIC a'i rhwydwaith. Bydd wyth o'r rhain yn mynd i fyny am bleidlais gyhoeddus a bydd saith ohonynt ar agor i bawb o CLICwyr newydd sbon i'r hen lawia.
Y naw categori yw:
- Erthygl Fwyaf Doniol
- Ffotograffydd y Flwyddyn
- Erthygl Fwyaf Defnyddiol (gwybodaeth, cyngor, hawliau, ti'n gwybod, pethau defnyddiol)
- Adolygiad Gorau (ffilm, theatr, t? bwyta, cerddoriaeth, gemau, chwaraeon, ti'n gwybod adolygiadau o bethau)
- Mwyaf Ymglymedig
- Newydd-ddyfodiad Gorau (wedi ymuno ers Hydref 2010)
- Erthygl Greadigol Orau (barddoniaeth, stori fer, cyfres, ti'n gwybod, stwff creadigol)
- Ffilm y Flwyddyn
- CLICiwr Y Flwyddyn (Cyfrannwr gorau ar y cyfan i CLIC)
Bydd yr un Mwyaf Ymglymedig yn cael ei benderfynu gan bwyllgor cyfrinachol a chysgodol o ninjas, ysbiwyr a staff CLIC (ond staff CLIC ran amlaf) ac ynghyd â CLICiwr y Flwyddyn bydd yn eithaf anodd i rai newydd i ennill (os nad ydynt wedi bod yn anhygoel iawn dros y ddeufis diwethaf).
Felly sut wyt ti'n cystadlu? Wel bydd popeth sydd yn cael ei gyflwyno o'r funud… na…. y funud… na… disgwyl… y funud HON yn cael ei gysidro ar gyfer gwobr berthnasol. Mae tua mis gen ti i ysgrifennu dy gampwaith (enwebiadau yn cau dydd Sadwrn 22 Hydref 2011).
Ond rydym yn deall efallai dy fod eisiau cyflwyno rhywbeth sydd wedi ei ysgrifennu cyn i Wobrau CLIC 2011 gael ei eni. Felly os wyt ti eisiau cyflwyno erthygl, llun neu ffilm sydd wedi cael ei gyhoeddi ar CLIC neu un o'r gwefannau sirol (hynny yw – anadl ddofn – Bwsted, Ieuenctid Sir Gâr, Defaid, Shouttawe, Swoosh, TheSprout, Wicid, Fflintyr Ifanc neu Young Newport) dros y flwyddyn ddiwethaf (o ddydd Sadwrn 23 Hydref 2010) yna un ai;
- E-bostia linc/URL i sam@cliconline.org.uk gyda'r categori ti eisiau cystadlu ynddo neu
- Tweetia'r linc/URL i @CLIConline neu @CLICarlein gyda'r hashtag #CLICawards neu #GwobrauCLIC.
Mae'r un peth yn wir am dy enwebiadau ar gyfer CLICiwr y Flwyddyn a chei fe gei di enwebu dy hun am unrhyw beth.
Fel dywedais cynt, mae'r enwebiadau yn cau ar ddydd Sadwrn 22 Hydref 2011 a'r pleidleisio yn cychwyn ar ddydd Sadwrn 29 Hydref 2011.
Dwi'n meddwl mai dyna'r cyfan am nawr ond os ydw i wedi anghofio unrhyw beth neu os wyt ti eisiau gofyn cwestiwn (gorau oll am y gwobrau) yna gad sylwad isod a byddaf yn dod yn ôl atat cyn gynted â phosib.
Yn y cyfamser, dechreua feddwl, dechreua ysgrifennu, dechreua ffilmio a dechreua gyffroi am un o nosweithiau gorau'r flwyddyn, Gwobrau CLIC 2011.
Digwyddiadau » Gwobrau CLIC 2011
DELWEDD: BENFICA gan Robert Bruce Murray III // Sort Of Natural




